Llyr Gruffydd AS
Senedd Cymru
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid
SeneddFinance@senedd.Cymru

 

 

 

25 Mehefin 2020

 

Annwyl Llyr Gruffydd AS,

 

Aelodau Anweithredol a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru

 

Diolch am ymgynghori â mi ynghylch y tâl a'r telerau penodi arfaethedig ar gyfer Aelodau Anweithredol newydd i Swyddfa Archwilio Cymru. Deallaf fod y Pwyllgor Cyllid ar hyn o bryd yn goruchwylio'r broses o recriwtio tri aelod, gan gynnwys Cadeirydd.

Rwy'n nodi bod y Pwyllgor wedi adolygu'r trefniadau talu cydnabyddiaeth ac wedi cytuno i beidio â gwneud unrhyw gynnydd yn y ffioedd a delir ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd telerau'r penodiad yn cynnwys darpariaeth ar gyfer codiad yn y gydnabyddiaeth ariannol flynyddol os caiff yr Aelodau Anweithredol yn y dyfodol eu penodi ar gyfradd uwch. Rwy'n cefnogi'r dull hwn o weithredu.

Nid yw cynllun cydnabyddiaeth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer penodiadau cyhoeddus yn cynnwys Swyddfa Archwilio Cymru. Fodd bynnag, er cymhariaeth, mae gan gynllun Llywodraeth Cymru bum cyfradd cyflog ddyddiol (bandiau), sy'n helpu i wahaniaethu rhwng taliadau ar sail asesiad o faint a chymhlethdod sefydliadau, a’u hamlygiad i risg. Mae'r cyfraddau dyddiol ar gyfer aelodau Bwrdd yn dechrau ar £92 ar gyfer band un ac yn mynd i fyny i £366 ar gyfer rolau band pump. Mae cyfraddau dyddiol y Cadeirydd yn amrywio o £114 i £478. Mewn cyd-destun, mae cyflog blynyddol o £12,500 yn cyfateb i gyfradd ddyddiol o tua £520 neu £347 ar gyfer Aelodau Gweithredol (yn seiliedig ar 2-3 diwrnod y mis). Mae cyflog y Cadeirydd o £25,000 tua £520 y dydd (yn seiliedig ar 4 diwrnod y mis).

Nodaf eich bod hefyd, mewn gohebiaeth ar wahân at y Prif Weinidog, yn cyfeirio at y ffaith fod cyflog y Cadeirydd yn ddwbl cyflogau'r Aelodau Anweithredol i gyfrif am gyfrifoldebau ychwanegol ac ymrwymiadau amser. Gall hynny fod yn wir yn nhermau cyflog blynyddol ond mae'n ymddangos yn llai perthnasol wrth gymharu'r ymrwymiadau amser a awgrymir ar gyfer rolau Aelodau Anweithredol a Chadeirydd.

Nid oes gennyf farn sylweddol i’w mynegi ynglŷn â'r telerau a'r amodau, ond rwy'n croesawu'r cyfeiriad at yr angen i'r rhai a benodir gynnal y Saith Egwyddor Bywyd cyhoeddus sy'n sail i benodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

 

 

Peter Kennedy

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol

Director Corporate Services